Mae'r rhaglen hyfforddiant Addysg DataBasic yn seiliedig ar y ‘Prosiect Diwylliant Data’ a DataBasic a ddatblygwyd gan ymchwilwyr yn Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT) i helpu sefydliadau i adeiladu eu diwylliant data. Rydym ni, Data Cymru, wedi ail-weithio elfennau o'r wefan i'w gwneud yn hawdd ei defnyddio i leoliadau addysg. Fodd bynnag, efallai y byddwch yn dal i weld cyfeiriadau at ‘sefydliadau’, ‘DataBasic.io’ a / neu ‘y Prosiect Diwylliant Data’.
Ynghylch DataBasic
Hygyrch i Bawb
Mae technolegau digidol wedi grymuso pobl ag anableddau mewn amrywiaeth o ffyrdd, ac mae safonau gwe newydd wedi ei gwneud yn haws nag erioed i adeiladu offerynnau newydd sy'n hygyrch i bawb. Mae DataBasic yn gweithredu'r technolegau hynny i gefnogi darllenwyr sgrîn er mwyn i'r sawl â nam ar eu golwg allu dechrau gweithio gyda data mewn ffyrdd newydd a chyffrous.
Gwneud Un Peth yn Dda
Mae llu o offerynnau'n bodoli ar gyfer gweithio gyda data; llawer mor gymhleth eu bod yn frawychus hyd yn oed i ddechrau. Rydym ni wedi creu pob offeryn DataBasic i ganolbwyntio ar wneud un peth yn dda, fel eich bod yn gwybod yn union beth yw defnyddiau pob un. Mae hyn yn gadael i ni ganolbwyntio ar wneud yr un peth hwnnw'n syml ac yn rymus.
Ffitio i mewn i'ch Piblinell
Mae gweithio gyda data ar-lein bob amser yn golygu defnyddio cymysgedd o offer. Ni fyddwn yn datrys y broblem honno'n fuan iawn. Felly rydyn ni wedi adeiladu DataBasic i dderbyn amrywiaeth o fathau o ddata, a rhoi'r canlyniadau mewn fformatiau sy'n gyfarwydd i chi. Darllenwch beth o gynnwys y wefan a lawrlwythwch ffeiliau CSV o'ch canlyniadau. Dyma ddau yn unig o'r dulliau rydym yn ceisio eich cyflwyno i'r ffordd mae'r mwyafrif o bobl yn gweithio gyda data ar-lein.
Ffocws ar Ddysgu
Weithiau nid gwell yw cyflymach. Os ydych chi wir eisiau dysgu sut i weithio gyda data i ddarganfod storïau i'w dweud, bydd angen i chi ddefnyddio offer sy'n gwneud mwy na dim ond rhoi siart i chi cyn gynted â phosibl. Dyna pam rydym ni wedi creu DataBasic gyda dysgwywr mewn golwg. Ddim yn gwybod ystyr rhai geiriau technegol? Hofrannwch drosto i weld diffiniad cyflym. Ddim yn siŵr sut i ddefnyddio offeryn? Rhowch gynnig ar beth o'r data engreifftiol difyr fel geiriau caneuon ac achosion o weld UFO rydym ni wedi'i gynnwys i'ch rhoi ar ben y ffordd.
Sicrhau Eich Preifatrwydd
Gyda mwyfwy o offerynnau sy'n canolbwyntio ar ddata yn symud ar-lein, gall fod yn anodd weithiau dweud ble mae'ch data chi'n mynd a beth fydd yn digwydd iddo ar ôl i chi ei lanlwytho. Rydym ni'n storio gwybodaeth a lanlwythwch am ddim ond yr amser mae'n ei gymryd i ni ei dadansoddi, yna rydym ni'n ei dileu. Mae'r canlyniadau cyfanredol a ddangoswn i chi - metadata - yn cael eu cadw am 60 diwrnod, ac yna rydym ni'n eu dileu. Mae'r holl gyfathrebu yn digwydd dros https, felly ni fydd neb arall yn gallu gweld y data wrth i chi ei lanlwytho.
Gan Addysgwyr, i Addysgwyr
Gweithio gyda phlant ysgol uwchradd? Newyddiadurwyr? Grwpiau cymunedol? Myfyrwyr graddedig? Ninnau hefyd!!! Dyna pam wnaethom ni ddylunio a phrofi offerynnau a gweithgareddau DataBasic yn ein hystafelloedd dosbarth a gweithdai gyda'r cynulleidfaoedd hynny. Mae'r offerynnau hyn yn ganlyniad ein rhwystredigaeth gyda phethau roedden ni'n ceisio eu defnyddio yn ein dosbarthiadau myfyrwyr gradd, felly rydym ni'n cydymdeimlo.
Dyluniwyd a Datblygwyd gan
Datblygwyd gan:
Mae'r rhaglen hyfforddiant DataBasicEducation yn seiliedig ar y ‘Prosiect diwylliant Data’ a DataBasic a ddatblygwyd gan ymchwilwyr yn Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT) i helpu sefydliadau i adeiladu eu diwylliant data. Rydym ni, Data Cymru, wedi ail-weithio elfennau o'r wefan i'w gwneud yn hawdd ei defnyddio i leoliadau addysg.
Ar gyfer unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud ag Addysg DataSylfaenol, cysylltwch â Data Cymru.
Prif Ymchwilwyr DataBasic:
Rahul Bhargava (Northeastern University) & Catherine D'Ignazio (MIT)
Datblygu meddalwedd DataBasic: GitHub
Rahul Bhargava, Catherine D'Ignazio, the Engagement Lab & Stephen Suen
Cyfeithiad Sbaeneg:
Aleszu Bajak, Víctor Rogelio Hernández Marroquín & Mariel García-Montes
Cyfieithiad Portwgäeg:
Daniel Paz de Araújo gyda chyfraniadau gan Emilie Reiser
Cyfieithiad Daneg:
Cyrchu data Sbaeneg:
Miguel Paz & Mariel García-Montes
Ffynonellau data Portwgäeg:
Vivian Guilherme & Daniel Paz de Araújo
Cyrchu data Daneg:
Cyrchu data Cymraeg:
Ni fyddai'r prosiect di-dâl a ffynhonnell agored hwn yn bosibl heb gefnogaeth hael:
Sefydliad John S. a James L. Knight, Cronfa Ddatblygu Cyfadran Coleg Emerson & Sefydliad Shuttleworth