Gweithgareddau
Proses Data
Dyma broses rydym ni'n ei chyflwyno i'ch symud chi o ddata i stori effeithiol. Parhewch i sgrolio i lawr i ddysgu am y gweithgareddau rydym ni'n eu cynnig i chi eu cynnal ar bob cam o'r ffordd.
Mae'r rhaglen hyfforddiant Addysg DataBasic yn seiliedig ar y ‘Prosiect Diwylliant Data’ a DataBasic a ddatblygwyd gan ymchwilwyr yn Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT) i helpu sefydliadau i adeiladu eu diwylliant data. Rydym ni, Data Cymru, wedi ail-weithio elfennau o'r wefan i'w gwneud yn hawdd ei defnyddio i leoliadau addysg. Fodd bynnag, efallai y byddwch yn dal i weld cyfeiriadau at ‘sefydliadau’, ‘DataBasic.io’ a / neu ‘y Prosiect Diwylliant Data’.
Ymarferion Cynhesu
Cyn neidio i mewn i ddarganfod data neu ddweud storïau, mae'n bwysig gwneud rhai gweithgareddau cynhesu i sbarduno meddylfryd data eich sefydliad. Mae'r rhain yn weithgareddau cyflym, hwyl ac ymarferol sy'n bwriadu hybu trafodaeth, symbylu syniadau creadigol a meithrin hyder i gymryd y cam nesaf. Er enghraifft, arwain cydweithwyr i Adeiladu Cerfluniau Data gyda deunyddiau crefft i archwilio dulliau gwahanol o gyfathrebu'r un set ddata syml. Mae gweithio gyda pompoms, glanhawyr pib, neu ddeunyddiau lleol eraill yn newid eich ymagwedd at ddata, gan adael i chi ganolbwyntio ar ddulliau cyflym chwareus o chwilio am storïau. Dad-adeiladwch dataviz i hybu'ch sgiliau mewn deall delweddiadau data, a datblygu bwa natarif cryf seiliedig ar ddata eich hun.
Gofyn Cwestiynau
Pa gwestiynau all (ac na all) gael eu hateb gyda data? A phan fyddwch chi'n syllu ar rai rhesi a cholofnau, sut ydych chi'n dechrau gwneud synwyr o'r data sydd o'ch blaen? Ar yr adeg hon, rydych chi'n dysgu sut i gymryd y cam cyntaf yn y broses dadansoddi data drwy ofyn cwestiynau da. Defnyddiwch ASKcsv i grynhoi data taenlen yn gyflym, taflu syniadau am gwestiynau amdano, cysylltiadau posibl â setiau data eraill, a rhagfarnau posibl byddwch efallai'n dod â nhw iddo. Cofiwch – nid yw'r data byth yn siarad drosto ei hun – chi sy'n ei helpu i siarad drwy ofyn cwestiynau gwell a gwell byth. Llenwch Daenlen Bapur i gyflwyno pobl i fathau gwahanol o ddata a'u helpu i feddwl am sut mae pobl yn ei llenwi.
Casglu Data
Yn aml nid ydych yn cydnabod y data sydd gennych chi'n barod! Mae data ym mhobman o'n cwmpas, ond mae'n gallu bod yn anodd ei adnabod a'i ddisgrifio. Mae arnoch chi angen y data cywir i ddweud stori gryf. Fel y dywedant, "sbwriel i mewn, sbwriel allan." Hefyd mae angen cofio na fydd un set ddata sengl o bosib yn gallu ateb eich cwestiynau. Yn aml, cyfuno setiau data yw'r ffordd orau o greu stori fwy cyflawn. Defnyddiwch Connect the Dots i archwilio data am gyfrannu torfol o'ch cynulleidfa i'w ddadansoddi gyda'ch gilydd fel rhwywdaith. Neu Defnyddiwch ASKcsv i feddwl am sut i gasglu'r data mae arnoch chi ei angen i ateb cwestiwn.
Dadansoddi Data
Gall data fod yn frawychus, yn arbennig pan fo'n rhaid ei ddadansoddi. Ond cofiwch, mae ystadegau i raddau helaeth dim ond yn ffyrdd arbennig o gyfrif. Rydyn ni i gyd yn gallu cyfrif yn weddol da! Nid yw sefydlu diwylliant data yn golygu y byddwn ni i gyd yn ddewiniaid ystadegol ond mae yn golygu dysgu digon am ddadansoddi i ddeall ei botensial creadigol. Mae'r broses dadansoddi data yn gyfle i ddod â phobl ynghyd. Mae llawer o ffyrdd o wneud hyn i ddod o hyd i stori. Defnyddiwch WordCounter i ddysgu am ddadansoddi data testun i ddod o hyd i storïau. Defnyddiwch Connect the Dots i ddadansoddi graff rhwydwaith yn gydweithredol. Defnyddiwch SameDiff i ddysgu sut gall algorithmau eich helpu i ddadansoddi data mewn ffyrdd mwy haniaethol.
Dweud Eich Stori
Dweud eich stori yw'r elfen hanfodol. Nid yw rhifau ar eu pen eu hunain yn ddigon i wneud eich achos nag ysgogi pobl i weithredu. Mae'n rhaid i chi roi cyd-destun i'ch data, a'i gyfuno i greu naratif er mwyn i bobl gael ei ddeall. Brasluniwch stori gyda WordCounter i ymarfer cyfathrebu stori seiliedig ar ddata yn weledol. Gwnewch We Geiriau i symud o syniadau a rhifau haniaethol i symbolau gweledol cadarn. Atgymysgwch Ffeithlun i ymarfer dweud yr un stori mewn ffyrdd gwahanol.
Rhowch Gynnig Arno
Sut ydych chi'n gwybod a ydy'ch stori'n gweithio? Ydy'r data rydych chi'n ei gynnwys yn ategu'r naratif a rowch? Gall fod yn anodd iawn rhoi eich hun yn esgidiau'ch cynulleidfa i geisio deall pa fath o stori a fydd yn newid eu golwg o'r byd neu'n eu hysgogi i weithredu. Ac efallai bod gennych chi nifer o gynulleidfaoedd. Mae pob cynulleidfa bosibl yn dod â gwahanol gredoau a phrofiadau at ddeall eich neges. Rhowch gynnig ar ConvinceMe i ymarfer dweud storïau gwahanol wrth gynulleidfaoedd gwahanol. Ysgrifennwch Lyfr Stori Data i ymarfer ysgrifennu bwâu naratif cymhellol sy'n cael eu cefnogi gan y data rydych chi'n gweithio gydag ef.
Am y Prosiect Diwylliant Data
Mae'r Data Culture Project yn fenter DataBasic.io. Rydym ni wedi cyfuno'r blynyddoedd o waith gyda chyrff di-elw mewn un man i'ch helpu i adeiladu diwylliant data. DataBasic.io yw cynnyrch gwaith Catherine D’Ignazio a Rahul Bhargava.