Polisi Preifatrwydd
Pwy ydym ni?
Cwmni llywodraeth leol yng Nghymru yw Data Cymru, ac rydym yn cynnig llawer o wasanaethau gwahanol sy’n helpu pobl i ddod o hyd i ddata a’i ddefnyddio’n effeithiol.
Ble mae fy nata yn cael ei storio? Pwy all ei weld?
Mae'r data rydych chi'n ei uwchlwytho i'r offer yn cael ei storio mewn gweinydd. (Mae gweinydd, yn yr achos hwn, yn gyfrifiadur mawr sy'n storio llawer o wybodaeth).
Mae gan Data Cymru fynediad at yr hyn rydych yn ei uwchlwytho ond nid ydym yn bwriadu gwirio’r data hwn, ar unrhyw adeg. Dim ond i wneud i'r wefan hon weithio y caiff ei defnyddio!
Pa mor hir ydych chi'n cadw fy nata?
Mae'r hyn rydych chi'n ei uwchlwytho yn cael ei gadw ar weinydd am 60 diwrnod, ac ar ôl hynny caiff ei ddileu'n awtomatig.
Beth yw data personol?
Gwybodaeth amdanoch chi yw data personol. Er enghraifft, eich enw, dyddiad geni, cyfeiriad e-bost neu'ch rhif ffôn.
Mae’n fwy diogel fel arfer os na fyddwch yn rhoi unrhyw ddata personol oni bai bod gwir angen – ac ar gyfer yr ymarferion hyn nid oes unrhyw reswm i chi lanlwytho data personol.
A gaf i wybod mwy?
Wrth gwrs, gallwch e-bostio ymholiadau@data.cymru i ofyn unrhyw gwestiynau.
I gael gwybodaeth fanylach, ewch i dudalen Polisi Preifatrwydd Data Cymru.