Datganiad Hygyrchedd ar gyfer DataBasic Addysg

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i databasiceducation.cymru.

Mae'r wefan hon yn cael ei chynnal gan Data Cymru. Mae'r rhaglen hyfforddiant DataBasicEducation yn seiliedig ar y ‘Prosiect diwylliant Data’ a DataBasic a ddatblygwyd gan ymchwilwyr yn Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT) i helpu sefydliadau i adeiladu eu diwylliant data. Dymunwn i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo hyd at 300% heb i’r testun ollwng oddi ar y sgrin
  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver).

Hefyd rydym wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae gan y wefan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch mae'r wefan hon

Gwyddom nad yw rhannau o'r wefan yn gwbl hygyrch:

  • Mae rhai elfennau cudd o ffurflenni a thablau yn rhannu priodoleddau id. Gall hyn achosi problemau gydag offer hygyrchedd.

Adborth a gwybodaeth gysylltu

Os oes arnoch chi angen gwybodaeth sydd ar y wefan hon mewn fformat gwahanol:

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ymateb i chi o fewn pum diwrnod gwaith.

Adrodd problemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Rydym ni bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os dewch o hyd i unrhyw broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen hon neu os credwch nad ydym yn diwallu gofynion hygyrchedd, e-bostiwch: ymholiadau@data.cymru neu ffoniwch 029 2090 9500.

Gweithdrefn Orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os ydych yn anfodlon ar sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) (Saesneg yn unig).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Llywodraeth Cymru a Data Cymru wedi ymrwymo i wneud y wefan hon yn hygyrch, yn unol â’r Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Compliance status

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 (Saesneg yn unig) Mae’r diffyg cydymffurfiaeth a'r eithriadau yn cael eu rhestru isod.

Cynnwys anhygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Methiant i gydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Yn y pedwar offeryn gwe - Word Counter, ASKcsv, SameDiff a Connect The Dots - mae rhai elfennau ffurf gudd yn rhannu'r un ids. Gall hyn achosi problemau gydag offer hygyrchedd ac mae'n methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 4.1.1.

Ar y dudalen canlyniadau ar gyfer teclyn gwe Connect The Dots, mae gwahanol elfennau yn rhannu'r un id. Gall hyn achosi problemau gydag offer hygyrchedd ac mae'n methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 4.1.1.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn yn fewnol ar 01/08/2023.

Cafodd y wefan ei phrofi diwethaf yn Awst 2023. Cafodd y sganiau awtomeiddiedig ar bob sgrin y wefan a phrofion rhyngweithiol unigol dan arweiniad, am bob bysellfwrdd,delwedd a strwythur yn erbyn WCAG 2.1 AA eu cynnal gan Data Cymru gan ddefnyddio Axe-core 4.7.2.