Atgymysgwch Ffeithlun

Ymarferwch ddweud stori data mewn ffyrdd gwahanol

Sefydlu

Bydd y gweithgaredd hwn yn cymryd 30 i 40 munud. Dylai fod gennych chi'r deunyddiau hyn wrth law:

1

Cefndir

Er mwyn dweud eich stori data yn dda, bydd angen becyn da o dechnegau cyflwyno arnoch chi i ddewis o'u plith. Ond yn aml rydym ni dim ond yn ystyried set fach o dechnegau — siartiau a mapiau traddodiadol yn bennaf — wrth i ni ddangos data. Mae'r gweithgaredd hwn yn cyflwyno'r cyfranogwyr i dechnegau cyflwyno sy'n greadigol, yn ddifyr, ac yn fwy addas i rai cynulleidfaoedd na siartiau a mapiau traddodiadol. Mae'n gadael i'r cyfranogwyr ymarfer defnyddio'r technegau hyn ac yn eu helpu i fagu hyder yn eu gallu i gyflwyno data'n briodol.

2

Cychwyn y Gweithgaredd

Cyflwynwch y sleidiau am dechnegau creadigol.
Rhowch gopïau o'r daflen am dechnegau delweddu i'r cyfranogwyr, ac yna trafodwch y disgrifiadau a'r enghreifftiau o bob techneg sy'n cael eu darparu yn y sleidiau (treuliwch tua 2 funud ar bob techneg). Mae'r enghreifftiau pendant yma'n helpu pobl i ehangu'r dulliau sydd ganddynt wrth law.

Trafodwch y delweddu enghreifftiol.
Cyflwynwch y delweddu enghreifftiol rydych chi wedi ei ddewis a thrafodwch ei gynulleidfa, ei amcanion, a'i gynnwys. Rydym ni'n awgrymu'r ffeithlun yma ar gamau i arbed ynni a dŵr o ymgyrch Modd i Fyw Llywodraeth Cymru gan fod ei neges a'i nod yn glir..

3

Dechreuwch Atgymysgu

Dewch â phawb yn ôl at ei gilydd ac ewch o gwmpas yr ystafell yn gadael i bob grŵp rannu eu hoff syniad. Gofynnwch i'r grwpiau drafod gwahanol benderfyniadau golygyddol a wnaed wrth gulhau eu syniadau. Gofynnwch am eu meddyliau am gryfderau a gwendidau cymharol pob techneg yn ogystal â pha gynulleidfaoedd fyddai'n elwa mwyaf ar wahanol dechnegau cyflwyno.

4

Gofynnwch i Bawb Rannu Eu Hadborth

Adolygwch y pwyntiau allweddol yn y sgwrs rydych chi newydd ei gael. Atgoffwch y cyfranogwyr fod data yn arsylwadau systematig o'r byd, a set ddata yw'r casgliad o'r arsylwadau hynny. Mae data yn crynhoi'r byd yn ddefnyddiol, ond mae'n bwysig cadw mewn cof nad yw'n cipio popeth. Gall data gipio mathau gwahanol o wybodaeth (feintiol, ansoddol, amserol, ddaearyddol ac ati), ac mae math y data yn effeithio ar y math o archwilio a chanfod patrymau y gallwch ei wneud. Yn aml mae angen i ddata gael ei lanhau a safoni. Mae dweud storïau gyda data a'i ddadansoddi yn golygu chwilio am batrymau, gwneud cymariaethau, darganfod allanolion, ac yna rhoi prawf ar yr wybodaeth honno drwy drafodaeth ag eraill. Yn olaf, mae'r dull o gasglu a defnyddio data yn gallu codi cwestiynau am breifatrwydd, cydsyniad, a moeseg, y mae'n rhaid eu cymryd i ystyriaeth wrth ei ddadansoddi a'i gyflwyno.