Ysgrifennwch Lyfr Stori Data
Dwedwch storïau data gan ddefnyddio naratifau creadigol a llyfrau stori gweledol
Sefydlu
Bydd y gweithgaredd hwn yn cymryd 35 i 40 munud. Dylai fod gennych chi'r deunyddiau hyn wrth law:
- Darnau mawr o bapur (mae papur cigydd yn gweithio'n dda)
- Crayonau neu farcwyr mewn llawer o liwiau
- Set ddata enghreifftiol i weithio gyda hi (gall hon fod yn eithaf bach os yw'n gweddu'n dda i'r cyfranogwyr). Mae set ddata ddifyr fel Adroddiadau o Weld UFOs yng Nghymru yn gweddu'n dda i'r gweithgaredd yma gweithio'n dda yn y gweithgaredd hwn. Dylai fod mewn fformat sy'n addas i'ch cyfranogwyr chwarae gydag ef. Yn aml archwiliwn ffeiliau fformat CSV gyda Tableau Public neu offeryn ASKcsv Databasic
- Llyfr stori enghreifftiol ysbrydoledig rydych chi wedi ei wneud am set ddata wahanol (lawrlwythwch lyfr stori enghreifftiol a wnaeth ein ffrind Jay ar sail cynhwysion sy'n cael eu defnyddio gyda'i gilydd yn aml mewn ryseitiau)
Cefndir
Mae dweud storïau yn gelfyddyd, ac ni chawn gyfle i'w hymarfer yn aml iawn. Mae'r gweithgaredd hwn yn gadael i'r cyfranogwyr ymarfer llunio stori data sy'n naratif creadigol. Mae storïau data sy'n cael eu hadeiladu ar fwa natarif cryf yn fwy cymhellol ac yn fwy cofiadwy. Mae'r cyfranogwyr yn treulio amser yn procio set ddata go iawn i ddod o hyd i stori syml, ac yna'n braslunio eu stori ac yn chwarae gyda dulliau gwahanol o'i dweud ar ffurf llyfr stori gweledol, difyr. Mae'r broses hon yn creu naratif cydlynus sy'n gallu cyflwyno eu storïau mewn dull argyhoeddiadol. Mae'r wybodaeth “sych” yn cael ei gweddnewid yn stori yn null llyfr plant syml. Hefyd mae'n atgyfnerthu'r cysylltiad rhwng cyflwyno data a dweud stori. Os nad ydych chi'n gallu dweud eich stori data yn y ffurf syml hon, nid oes unrhyw ffordd y gallwch chi helpu'ch cynulleidfaoedd i ddeall rhywbeth mwy cymhleth.
Cychwyn y Gweithgaredd
Cyflwynwch y set ddata enghreifftiol. Siaradwch am bwysigrwydd chwilio am natarif cryf er mwyn creu stori data cymhellol. Os ydych chi wedi rhedeg gweithgaredd Dad-adeiladwch DataViz yn barod, cyfeiriwch at yr elfennau a wnaeth i'r ffeithlun a drafodoch chi yno weithio'n dda neu beidio. Rhannwch y cyfranogwyr yn grwpiau o 3 neu 4 o bobl, a rhowch chwarter awr iddyn nhw sganio'r data. Dwedwch wrthyn nhw am chwilio am storïau data diddorol ac, yn bwysicach ar gyfer y gweithgaredd hwn, egin naratif cryf.
Yna, gadewch i bawb wybod ei bod yn bryd gwneud llyfrau stori. Darllenwch eich stori enghreifftiol iddyn nhw. Rhowch ddarn mawr o bapur a rhai crayonau neu farcwyr â lliwiau gwahanol i bob grŵp. Dangoswch sut i blygu darn mawr o bapur yn gylchgrawn (rhannwch y cyfarwyddiadau hyn neu dangoswch y fideo isod). Dwedwch wrthyn nhw fod rhaid i'r dudalen gyntaf gynnwys yr ymadrodd “Unwaith Ar y Tro”, a bod rhaid i'r dudalen olaf gynnwys “Y Diwedd”.
Rhowch 15 munud iddyn nhw fraslunio stori ar y papur. Dylai'r llyfrau hyn fod yn weledol iawn, fel llyfr lluniau plentyn neu nofel graffig. Anogwch nhw i ddefnyddio lluniau, geiriau, siartiau, siapau, a lliw yn greadigol. Dylai'r data fod yn ganolog i'r stori; gyda chynrychiolaethau ohono wedi'u plethu trwyddo i gyd.
Gofynnwch i Bawb Rannu Eu Hadborth
I gloi, gofynnwch i bob grŵp bach ddarllen eu stori i'r grŵp cyfan. Mae'r rhain bob amser yn dipyn o hwyl; mae'r grwpiau wrth eu bodd yn eu rhannu â'i gilydd!